Oriel / Gallery 1

Glan-yr-Afon, Hwlffordd

Mae hen Neuadd y Farchnad yn Hwlffordd (poblogaeth c.13,000) wedi’i drawsnewid i greu canolfan ddiwylliannol Glan-yr-afon a agorwyd yn Rhagfyr 2018. Mae’r datblygiad uchelgeisiol yn cynnwys llyfrgell, oriel gelf, canolfan groeso a caffi ac mae’n rhan o gynlluniau Cyngor Sir Penfro i adfywio canol y dref. Denwyd nawdd ariannol o sawl ffynhonnell ar gyfer y prosiect £3.9m, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Hwlffordd, Sefydliad Wolfson, the Foyle Foundation, and Pembrokeshire Coast National Park Authority.

Rhannwyd y llyfrgell yn nifer o ardaloedd gan gynnwys:

  • Ardal plant deniadol ar thema castell sy’n llawn llyfrau a theganau/eitemau chwarae. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yno ar gyfer plant gan fanteisio ar y twr darllen a’r mur stori rhyngweithiol.
  • Mae darparu gwybodaeth yn rhan annatod o’r gwasanaeth gyda dwy ardal arbennig:
    • Man gwybodaeth am wasanaethau’r cyngor ac i dwristiiaid sy’n cael ei staffio ac hefyd cymorth ychwanegol gwirfoddolwyr ar gyfer gwybodaeth twristiaeth;
    • Bywydfan - sy’n darparu gwybodaeth/gweithgaredd i hyrwyddo lles a sgiliau gwaith ag arian.
  • Ardal hyblyg - Gyferbyn a’r ardal plant a’r oriel mae silffoedd llyfrau ar olwynion sy’n galluogi eu symud i ddarparu gweithgaredd o bob math.

Mewn un cornel o’r adeilad mae ystafell gymunedol, ond yn fwy trawiadol yw’r oriel gelf o ansawdd uchel. Mae’ r arddangosfeydd yn cael eu datblygu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro a’r Llyfrgell Genedlaethol

Un nodwedd amlwg o’r llyfrgell yw’r nifer o’r mannau/corneli darllen sydd ar gael, gyda mynediad i blwg trydan sy’n galluogi’r defnyddwyr i ddod a’u cliniadur neu lechen eu hunain. Hyn yn ychwanegol i’r cyfrifiaduron sy’n cael eu darparu. Mae nifer o'r seddi a golygfa o'r afon. 

Mewn estyniad gwydr deniadol ar un pen o’ adeilad mae caffi modern sy’n agor allan i’r llyfrgell. Lleolir papurau newydd y llyfrgell wrth ochr y caffi i’w darllen gyda paned. Fel y gwelir yn y lluniau mae arwyddion y caffi yn amlwg o’r ganolfan siopau gyferbyn ac o’r llwybr tuag at y caffi/ganolfan.

Rwy’n siŵr y bydd y cynlluniau i wella’r arwyddion ar gyfer y llyfrgell/oriel/ganolfan groeso yn ychwanegu at y nifer o ymwelwyr i’r ganolfan. Eisoes mae dros 100,000 wedi ymweld â’r ganolfan mewn llai na 4 mis - yn llawer iawn uwch na’r targed ‘uchelgeisiol’ o 200,000 mewn blwyddyn!  Hefyd denwyd dros 2,100 o aelodau newydd i’r llyfrgell hyd yn hyn. 

https://www.sir-benfro.gov.uk/ystafell-newyddion/glan-yr-afon-yn-agor-yn-swyddogol

https://www.sir-benfro.gov.uk/ystafell-newyddion/canolfan-ddiwylliannol-newydd-yn-llwyddiant-mawr-ymhlith-y-cyhoedd

 

Riverside, Haverfordwest

The old Riverside Market in Haverfordwest (population c.13,000) has been transformed into the dynamic Glan-yr-afon cultural centre which opened in December 2018. The £3.9m development features a new library, art gallery tourist information centre and a café and will ‘kick-start’ Pembrokeshire County Council’s plans to regenerate the town centre. Funding was secured from a range of sources including Pembrokeshire County Council, Welsh Government, the Wolfson Foundation, the Foyle Foundation, Town Council and Pembrokeshire Coast National Park Authority.

The key zones of the library include:

  • An attractive castle themed children’s area packed with books and play items. It will also house a range of children’s activities taking advantage of the children’s reading tower and interactive storywall. 
  • Information provision forms a key aspect of the library service with two zones:
    • Staffed shared tourist and council information point. Additional volunteers assist with the tourist information.
    • Life Hub – provides information, activities and resources to promote health and wellbeing, and work and money skills.
  • Flexible area – Opposite the gallery/children’s area the bookshelves are on castors and the area can be re-purposed for activities etc.

Off the main library area there is a small community/activities room, but most impressive of all is the high quality gallery space. The gallery’s exhibition programme is a partnership between Pembrokeshire County Council and the National Library of Wales.

 A feature of the library is the number of reading booths/corners which also feature power plugs to enable people to utilise their own IT in addition to the computers and tablets available. Many are window seats overlooking the river.

Situated in an impressive glass extension at one end of the building is a modern café that opens up into the library space (library newspapers are available to read in the café). As shown in the photographs, the signage for the café is clearly visible on the approach and from the shopping centre on the opposite side of the river. Plans to improve the signage for the library/gallery/tourist information services are ongoing and will add to the impressive visitor numbers to the centre. Already over 100,000 have visited the centre in under 4 months - well on the way to exceed the ‘overly ambitious’ target of 200,000 for the year! Also over 2,100 new library members have been signed-up.

https://www.pembrokeshire.gov.uk/newsroom/glan-yr-afon-officially-opened

https://www.pembrokeshire.gov.uk/newsroom/new-cultural-centre-proves-huge-hit-with-the-public

 

25/04/2019

Print | Sitemap
© Huw Evans